Diarhebion 19:8-14 beibl.net 2015 (BNET)

8. Mae'r person doeth yn caru ei fywyd;a'r un sy'n gwneud yn siŵr ei fod yn deall yn hapus.

9. Bydd tyst celwyddog yn cael ei gosbi;mae wedi darfod ar rywun sy'n palu celwyddau.

10. Dydy byw'n foethus ddim yn gweddu i ffŵl;llai fyth, caethwas yn rheoli ei feistr.

11. Mae rhywun call yn rheoli ei dymer;mae i'w ganmol am faddau i rywun sy'n pechu'n ei erbyn.

12. Mae brenin dig fel llew yn rhuo;ond mae ei ffafr fel gwlith ar laswellt.

13. Mae plentyn ffôl yn achosi trafferthion i'w dad;a gwraig sy'n swnian fel dŵr yn diferu'n ddi-baid.

14. Mae plant yn etifeddu tŷ ac eiddo gan eu rhieni,ond yr ARGLWYDD sy'n rhoi gwraig ddoeth.

Diarhebion 19