Diarhebion 19:17-27 beibl.net 2015 (BNET)

17. Mae rhoi yn hael i'r tlawd fel benthyg i'r ARGLWYDD;bydd e'n talu'n ôl iddo am fod mor garedig.

18. Disgybla dy blentyn tra mae gobaith iddo,ond paid colli dy limpyn yn llwyr.

19. Mae'r un sy'n fyr ei dymer yn gorfod talu'r pris;os wyt am ei helpu, byddi'n gorfod gwneud hynny fwy nag unwaith.

20. Gwrando ar gyngor, a bydd barod i dderbyn cerydd,a byddi'n ddoeth yn y diwedd.

21. Mae gan bobl bob math o gynlluniau,ond cynllun yr ARGLWYDD fydd yn cael ei gyflawni.

22. Mae ffyddlondeb yn beth dymunol mewn person;gwell bod yn dlawd na dweud celwydd.

23. Mae parchu'r ARGLWYDD yn arwain i fywyd;mae person felly yn dawel ei feddwl, ac yn ofni dim drwg.

24. Mae'r diogyn yn estyn am fwyd,ond yn rhy ddiog i'w godi at ei geg!

25. Cura'r un sy'n gwawdio, a bydd y gwirion yn dysgu gwers;cywira rywun call a bydd yn dysgu mwy fyth.

26. Mae plentyn sy'n dwyn oddi ar ei dad ac yn gyrru ei fam o'i chartreyn achos cywilydd a gwarth.

27. Fy mab, os byddi'n stopio gwrando pan wyt ti'n cael dy gywiro,byddi wedi troi dy gefn ar ddoethineb.

Diarhebion 19