1. Mae'n well bod yn dlawd ac yn onestnac yn ffŵl sy'n dweud celwydd.
2. Dydy sêl heb ddeall ddim yn beth da;mae'r rhai sydd ar ormod o frys yn colli'r ffordd.
3. Ffolineb pobl sy'n difetha eu bywydau,ond maen nhw'n dal dig yn erbyn yr ARGLWYDD.
4. Mae cyfoeth yn denu llawer o ffrindiau,ond mae ffrind person tlawd yn troi cefn arno.
5. Bydd tyst celwyddog yn cael ei gosbi;fydd rhywun sy'n palu celwyddau ddim yn dianc.
6. Mae llawer yn crafu i ennill ffafr pobl bwysig,ac mae pawb eisiau bod yn ffrindiau gyda rhywun hael.
7. Mae perthnasau rhywun tlawd eisiau cael gwared ag e;does dim syndod fod ei ffrindiau yn ei osgoi!Mae'n gofyn am help, ond does dim ymateb.
8. Mae'r person doeth yn caru ei fywyd;a'r un sy'n gwneud yn siŵr ei fod yn deall yn hapus.