Diarhebion 18:1-4 beibl.net 2015 (BNET)

1. Mae'r un sy'n cadw ar wahân yn plesio ei hun,ac yn gwrthod unrhyw gyngor doeth.

2. Does gan ffŵl ddim awydd o gwbl i ddeall,dim ond lleisio'i farn ei hun.

3. Mae dirmyg yn dilyn y drwg,a gwawdio yn dilyn gwarth.

4. Mae geiriau rhywun fel dŵr dwfn;ffynnon o ddoethineb fel nant yn llifo.

Diarhebion 18