Diarhebion 17:6-11 beibl.net 2015 (BNET)

6. Coron pobl mewn oed ydy eu wyrion a'u wyresau,a balchder plant ydy eu rhieni.

7. Dydy geiriau gwych ddim yn gweddu i ffŵl;llai fyth celwydd i ŵr bonheddig.

8. Mae breib fel swyn i'r un sy'n ei gynnig;ble bynnag mae'n troi, mae'n llwyddo.

9. Mae'r sawl sy'n cuddio bai yn ceisio cyfeillgarwch,ond yr un sy'n hel clecs yn colli ffrindiau.

10. Mae gair o gerydd yn gwneud mwy o argraff ar ddyn doethna chwipio ffŵl gant o weithiau.

11. Dydy rhywun drwg ond eisiau gwrthryfela;felly bydd swyddog creulon yn cael ei anfon yn ei erbyn.

Diarhebion 17