Diarhebion 17:20-28 beibl.net 2015 (BNET)

20. Fydd yr un sy'n twyllo ddim yn llwyddo;mae'r rhai sy'n edrych am helynt yn mynd i drafferthion.

21. Mae'r un sy'n magu plentyn ffôl yn profi tristwch;does dim mwynhad i dad plentyn gwirion.

22. Mae llawenydd yn iechyd i'r corff;ond mae iselder ysbryd yn sychu'r esgyrn.

23. Person drwg sy'n derbyn breib yn dawel bachi wyrdroi cyfiawnder.

24. Mae'r person craff yn gweld yn glir beth sy'n ddoeth;ond dydy'r ffŵl ddim yn gwybod ble i edrych.

25. Mae plentyn ffôl yn achosi gofid i'w dada dolur calon i'w fam.

26. Dydy cosbi rhywun dieuog ddim yn iawn;byddai fel rhoi curfa i swyddog llys am fod yn onest.

27. Mae'r un sy'n brathu ei dafod yn dangos synnwyr cyffredin;a'r person pwyllog yn dangos ei fod yn gall.

28. Gall hyd yn oed ffŵl sy'n cadw'n dawel gael ei ystyried yn ddoeth;a'r un sy'n cau ei geg, yn ddeallus.

Diarhebion 17