Diarhebion 17:18-24 beibl.net 2015 (BNET)

18. Does dim sens gan rywunsy'n cytuno i dalu dyled rhywun arall.

19. Mae'r un sy'n hoffi tramgwyddo yn hoffi trafferthion;a'r un sy'n brolio yn gofyn am drwbwl.

20. Fydd yr un sy'n twyllo ddim yn llwyddo;mae'r rhai sy'n edrych am helynt yn mynd i drafferthion.

21. Mae'r un sy'n magu plentyn ffôl yn profi tristwch;does dim mwynhad i dad plentyn gwirion.

22. Mae llawenydd yn iechyd i'r corff;ond mae iselder ysbryd yn sychu'r esgyrn.

23. Person drwg sy'n derbyn breib yn dawel bachi wyrdroi cyfiawnder.

24. Mae'r person craff yn gweld yn glir beth sy'n ddoeth;ond dydy'r ffŵl ddim yn gwybod ble i edrych.

Diarhebion 17