15. Dau beth sy'n gas gan yr ARGLWYDD –gollwng yr euog yn rhydd a chosbi'r dieuog.
16. Wnaiff arian yn llaw ffŵl ddim prynu doethineb.Pam talu am wersi, ac yntau ddim eisiau deall?
17. Mae ffrind yn ffyddlon bob amser;a brawd wedi ei eni i helpu mewn helbul.
18. Does dim sens gan rywunsy'n cytuno i dalu dyled rhywun arall.
19. Mae'r un sy'n hoffi tramgwyddo yn hoffi trafferthion;a'r un sy'n brolio yn gofyn am drwbwl.
20. Fydd yr un sy'n twyllo ddim yn llwyddo;mae'r rhai sy'n edrych am helynt yn mynd i drafferthion.
21. Mae'r un sy'n magu plentyn ffôl yn profi tristwch;does dim mwynhad i dad plentyn gwirion.
22. Mae llawenydd yn iechyd i'r corff;ond mae iselder ysbryd yn sychu'r esgyrn.