Diarhebion 17:1-6 beibl.net 2015 (BNET)

1. Mae crystyn sych a thipyn o heddwchyn well na gwledd fawr lle mae pobl yn ffraeo.

2. Bydd gwas da yn rheoli mab sy'n achos cywilydd,a bydd yn rhannu'r etifeddiaeth fel un o'r teulu.

3. Tawddlestr i arian, a ffwrnais i aur,ond yr ARGLWYDD sy'n profi'r galon.

4. Mae'r rhai sy'n gwneud drwg yn gwrando ar gyngor drwg;a'r un sy'n dweud celwydd yn rhoi sylw i eiriau maleisus.

5. Mae'r sawl sy'n chwerthin ar y tlawd yn amharchu ei Grëwr;a bydd yr un sy'n mwynhau gweld trychineb yn cael ei gosbi.

6. Coron pobl mewn oed ydy eu wyrion a'u wyresau,a balchder plant ydy eu rhieni.

Diarhebion 17