Diarhebion 16:12-23 beibl.net 2015 (BNET)

12. Mae brenhinoedd yn casáu torcyfraith,am mai cyfiawnder sy'n gwneud gorsedd yn ddiogel.

13. Mae dweud y gwir yn ennill ffafr brenhinoedd;maen nhw'n hoffi pobl onest.

14. Mae gwylltio brenin yn arwain i farwolaethond bydd person doeth yn gallu ei dawelu.

15. Mae gwên ar wyneb y brenin yn arwain i fywyd;mae ei ffafr fel cwmwl glaw yn y gwanwyn.

16. Mae dysgu bod yn ddoeth yn llawer gwell nag aur;a chael deall yn well nag arian.

17. Mae ffordd glir o flaen yr un sy'n osgoi drygioni;ac mae'r person sy'n gwylio ble mae'n mynd yn saff.

18. Mae balchder yn dod o flaen dinistr,a brolio cyn baglu.

19. Mae'n well bod yn ostyngedig gyda'r anghenusna rhannu ysbail gyda'r balch.

20. Mae'r un sy'n gwrando ar neges Duw yn llwyddo;a'r un sy'n trystio'r ARGLWYDD yn hapus.

21. Mae'r person doeth yn cael ei gyfri'n gall;ac mae geiriau caredig yn helpu rhywun i ddysgu.

22. Mae synnwyr cyffredin fel ffynnon sy'n rhoi bywyd i rywun,ond mae ffyliaid yn talu'r pris am eu ffolineb.

23. Mae person doeth yn meddwl cyn siarad;mae ei eiriau yn dwyn perswâd.

Diarhebion 16