Diarhebion 15:9-21 beibl.net 2015 (BNET)

9. Mae'n gas gan yr ARGLWYDD ymddygiad pobl ddrwg,ond mae'n caru'r rhai sy'n trïo byw'n iawn.

10. Mae'r un sydd wedi troi cefn ar y ffordd yn cael ei ddisgyblu'n llym;bydd yr un sy'n gwrthod cael ei gywiro yn marw.

11. Mae'r ARGLWYDD yn gweld beth sy'n digwydd yn Annwn,felly mae'n sicr yn gwybod beth sy'n mynd trwy feddyliau pobl!

12. Dydy'r un sy'n gwawdio pobl eraill ddim yn hoffi cael ei gywiro;dydy e ddim yn fodlon gofyn cyngor gan rywun doeth.

13. Mae calon lawen yn rhoi gwên ar yr wyneb;ond mae calon drist yn llethu'r ysbryd.

14. Mae person call eisiau dysgu mwy;ond mae ffŵl yn cael ei fwydo ar ffolineb.

15. Mae pobl sy'n diodde yn cael bywyd caled,ond mae bodlonrwydd fel gwledd ddiddiwedd.

16. Mae ychydig bach gan rywun sy'n parchu'r ARGLWYDDyn well na chyfoeth mawr gyda helbulon.

17. Mae platiaid o lysiau ble mae cariadyn well na gwledd o gig eidion â chasineb.

18. Mae rhywun sy'n fyr ei dymer yn creu helynt;ond mae person amyneddgar yn tawelu ffrae.

19. Mae'r ffordd mae person diog yn ymddwyn fel llwyn o fieri,ond mae llwybr yr un sy'n gwneud beth sy'n iawn fel priffordd agored.

20. Mae plentyn doeth yn gwneud ei dad yn hapus;ond plentyn ffôl yn dangos dim parch at ei fam.

21. Mae chwarae'r ffŵl yn hwyl i rywun heb sens;ond mae person call yn cadw ar y llwybr iawn.

Diarhebion 15