Diarhebion 14:3-21 beibl.net 2015 (BNET)

3. Mae siarad balch y ffŵl yn wialen ar ei gefn,ond mae geiriau'r doeth yn ei amddiffyn.

4. Heb ychen, mae'r cafn bwydo yn wag;mae cryfder ychen yn dod â chynhaeaf mawr.

5. Dydy tyst gonest ddim yn dweud celwydd;Ond mae gau-dyst yn palu celwyddau.

6. Mae gwawdiwr yn chwilio am ddoethineb, ac yn methu ei gael;ond mae person deallus yn dysgu'n rhwydd.

7. Cadw draw o gwmni person ffôl,achos wnei di ddysgu dim ganddo.

8. Mae person call yn gwybod ble mae e'n mynd,ond mae ffyliaid yn mynd ar goll yn eu ffolineb.

9. Mae ffyliaid yn gwawdio offrwm dros euogrwydd,ond mae'r rhai sy'n byw yn iawn yn profi ffafr Duw.

10. Dim ond y galon ei hun sy'n gwybod mor chwerw ydy hi,a does neb arall yn gallu rhannu ei llawenydd.

11. Bydd tai pobl ddrwg yn syrthio,ond bydd cartre'r un sy'n byw'n iawn yn llwyddo.

12. Mae yna ffordd o fyw sy'n edrych yn iawn i bobl,ond arwain i farwolaeth mae hi yn y pen draw.

13. Gall y galon fod yn drist hyd yn oed pan mae rhywun yn chwerthin,ac mae hapusrwydd yn gallu troi'n dristwch yn y diwedd.

14. Bydd pobl ddiegwyddor yn wynebu canlyniadau eu ffyrdd;ond pobl dda yn cael eu gwobrwyo am eu gweithredoedd.

15. Mae'r twpsyn yn fodlon credu unrhyw beth;ond mae'r person call yn fwy gofalus.

16. Mae rhywun doeth yn cymryd gofal, ac yn troi cefn ar ddrygioni,ond mae'r ffŵl yn rhy hyderus ac yn rhuthro i mewn yn fyrbwyll.

17. Mae rhywun sy'n fyr ei dymer yn gwneud pethau ffôl;ac mae'n gas gan bobl rai sydd â chynlluniau gyfrwys.

18. Mae pobl ddiniwed yn etifeddu ffolineb,ond pobl gall yn cael eu coroni â gwybodaeth.

19. Bydd pobl ddrwg yn ymgrymu o flaen y da,a'r rhai wnaeth ddrwg yn disgwyl wrth giatiau'r cyfiawn.

20. Mae hyd yn oed cymdogion y person tlawd yn ei gasáu,ond mae gan y cyfoethog lot o ffrindiau.

21. Mae rhywun sy'n malio dim am bobl eraill yn pechu;ond mae bendith fawr i'r rhai sy'n helpu pobl mewn angen.

Diarhebion 14