Diarhebion 14:24-27 beibl.net 2015 (BNET)

24. Mae'r doeth yn cael cyfoeth yn goron;ond ffolineb ydy torch ffyliaid.

25. Mae tyst sy'n dweud y gwir yn achub bywydau;ond mae'r un sy'n palu celwyddau yn dwyllwr.

26. Mae parchu'r ARGLWYDD yn rhoi hyder,ac yn lle diogel i blant rhywun gysgodi.

27. Mae parchu'r ARGLWYDD yn ffynnon sy'n rhoi bywyd,ac yn troi rhywun oddi wrth faglau marwolaeth.

Diarhebion 14