Diarhebion 14:23-34 beibl.net 2015 (BNET)

23. Mae elw i bob gwaith caled,ond mae gwneud dim ond siarad yn arwain i dlodi.

24. Mae'r doeth yn cael cyfoeth yn goron;ond ffolineb ydy torch ffyliaid.

25. Mae tyst sy'n dweud y gwir yn achub bywydau;ond mae'r un sy'n palu celwyddau yn dwyllwr.

26. Mae parchu'r ARGLWYDD yn rhoi hyder,ac yn lle diogel i blant rhywun gysgodi.

27. Mae parchu'r ARGLWYDD yn ffynnon sy'n rhoi bywyd,ac yn troi rhywun oddi wrth faglau marwolaeth.

28. Mae bod yn frenin ar boblogaeth fawr yn anrhydedd;ond heb bobl dydy llywodraethwr yn neb.

29. Mae rheoli'ch tymer yn beth call iawn i'w wneud;ond mae colli'ch tymer yn dangos eich bod yn ddwl.

30. Mae ysbryd tawel yn iechyd i'r corff;ond cenfigen fel cancr yn pydru'r esgyrn.

31. Mae'r un sy'n gormesu'r tlawd yn amharchu ei Grëwr;ond mae bod yn garedig at rywun mewn angen yn anrhydeddu Duw.

32. Mae pobl ddrwg yn cael eu dymchwel gan eu drygioni eu hunain;ond mae gonestrwydd y rhai sy'n gwneud beth sy'n iawn yn eu cadw nhw'n saff.

33. Mae doethineb yn eistedd yn gyfforddus ym meddwl rhywun sy'n synhwyrol,ond ydy ffyliaid yn gwybod amdano o gwbl?

34. Mae cyfiawnder yn gwneud gwlad yn un wych;ond pechod yn dwyn gwarth ar bobl.

Diarhebion 14