Diarhebion 14:2-14 beibl.net 2015 (BNET)

2. Mae'r person sy'n byw'n iawn yn parchu'r ARGLWYDD;ond mae'r rhai sy'n twyllo yn ei ddirmygu.

3. Mae siarad balch y ffŵl yn wialen ar ei gefn,ond mae geiriau'r doeth yn ei amddiffyn.

4. Heb ychen, mae'r cafn bwydo yn wag;mae cryfder ychen yn dod â chynhaeaf mawr.

5. Dydy tyst gonest ddim yn dweud celwydd;Ond mae gau-dyst yn palu celwyddau.

6. Mae gwawdiwr yn chwilio am ddoethineb, ac yn methu ei gael;ond mae person deallus yn dysgu'n rhwydd.

7. Cadw draw o gwmni person ffôl,achos wnei di ddysgu dim ganddo.

8. Mae person call yn gwybod ble mae e'n mynd,ond mae ffyliaid yn mynd ar goll yn eu ffolineb.

9. Mae ffyliaid yn gwawdio offrwm dros euogrwydd,ond mae'r rhai sy'n byw yn iawn yn profi ffafr Duw.

10. Dim ond y galon ei hun sy'n gwybod mor chwerw ydy hi,a does neb arall yn gallu rhannu ei llawenydd.

11. Bydd tai pobl ddrwg yn syrthio,ond bydd cartre'r un sy'n byw'n iawn yn llwyddo.

12. Mae yna ffordd o fyw sy'n edrych yn iawn i bobl,ond arwain i farwolaeth mae hi yn y pen draw.

13. Gall y galon fod yn drist hyd yn oed pan mae rhywun yn chwerthin,ac mae hapusrwydd yn gallu troi'n dristwch yn y diwedd.

14. Bydd pobl ddiegwyddor yn wynebu canlyniadau eu ffyrdd;ond pobl dda yn cael eu gwobrwyo am eu gweithredoedd.

Diarhebion 14