Diarhebion 13:7-22 beibl.net 2015 (BNET)

7. Mae un heb ddim yn cymryd arno ei fod yn gyfoethog,ac un arall yn gyfoethog yn cymryd arno ei fod yn dlawd.

8. Gall y cyfoethog gael ei fygwth am ei gyfoeth,ond dydy'r person tlawd ddim yn cael y broblem yna.

9. Mae golau'r cyfiawn yn disgleirio'n llachar;ond mae'r person drwg fel lamp sy'n diffodd.

10. Dydy balchder yn gwneud dim ond creu trafferthion;mae pobl ddoeth yn derbyn cyngor.

11. Mae cyfoeth gafodd ei ennill heb ymdrech yn diflannu'n hawdd,ond bydd cyfoeth sydd wedi ei gasglu o dipyn i beth yn cynyddu.

12. Mae gobaith sy'n cael ei ohirio yn torri'r galon,ond mae dymuniad sy'n dod yn wir fel pren sy'n rhoi bywyd.

13. Bydd pethau'n mynd yn ddrwg i'r un sy'n gwrthod cyngor;ond bydd y person sy'n gwrando ar orchymyn yn cael ei wobrwyo.

14. Mae dysgu gan rai doeth fel ffynnon sy'n rhoi bywyd,ac yn ei gadw rhag syrthio i faglau marwolaeth.

15. Mae dangos tipyn o sens yn ennill ffafr;ond mae byw fel twyllwr yn arwain at ddinistr.

16. Mae pawb call yn gwneud beth sy'n ddoeth,ond mae'r ffŵl yn dangos ei dwpdra.

17. Mae negesydd gwael yn achosi dinistr;ond mae negesydd ffyddlon yn dod â iachâd.

18. Tlodi a chywilydd fydd i'r un sy'n gwrthod cael ei gywiro;ond bydd y sawl sy'n gwrando ar gerydd yn cael ei ganmol.

19. Mae dymuniad wedi ei gyflawni yn beth melys;ond mae'n gas gan ffyliaid droi cefn ar ddrwg.

20. Mae cwmni pobl ddoeth yn eich gwneud chi'n ddoeth,ond mae cadw cwmni ffyliaid yn gofyn am drwbwl.

21. Mae helyntion yn dilyn pechaduriaid,ond bydd bywyd yn dda i'r rhai sy'n byw'n gyfiawn.

22. Mae person da yn gadael etifeddiaeth i'w wyrion a'i wyresau,ond mae cyfoeth pechaduriaid yn mynd i'r rhai sy'n byw'n gyfiawn.

Diarhebion 13