1. Mae plentyn doeth yn gwrando pan mae ei dad yn ei gywiro,ond dydy plant sy'n meddwl eu bod nhw'n gwybod yn well ddim yn gwrando ar gerydd.
2. Mae canlyniadau da i eiriau caredig,ond dydy'r twyllwr yn cynnig dim byd ond trais.
3. Mae'r person sy'n ffrwyno'i dafod yn diogelu ei hun,ond yr un sy'n methu cau ei geg yn dinistrio ei hun.
4. Mae'r person diog eisiau pethau, ond yn cael dim;ond bydd y person gweithgar yn cael popeth mae e eisiau.
5. Mae'r person cyfiawn yn casáu celwydd;ond y person drwg yn dwyn cywilydd a gwarth arno'i hun.
6. Mae cyfiawnder yn amddiffyn y rhai sy'n byw yn iawn;Ond mae'r pechadur yn cael ei faglu gan ei ddrygioni.
7. Mae un heb ddim yn cymryd arno ei fod yn gyfoethog,ac un arall yn gyfoethog yn cymryd arno ei fod yn dlawd.
8. Gall y cyfoethog gael ei fygwth am ei gyfoeth,ond dydy'r person tlawd ddim yn cael y broblem yna.