10. Mae pobl dda yn gofalu am eu hanifeiliaid,ond mae hyd yn oed ‛tosturi‛ pobl ddrwg yn greulon!
11. Bydd yr un sy'n trin ei dir yn cael digon o fwyd,ond does dim sens gan yr un sy'n gwastraffu amser.
12. Mae pobl ddrwg yn blysio am ffrwyth eu drygioni;ond gwreiddiau y cyfiawn sy'n rhoi cnwd.
13. Mae geiriau pobl ddrwg yn eu baglu nhw,ond mae'r un sy'n gwneud y peth iawn yn dianc rhag trafferthion.
14. Mae rhywun yn derbyn canlyniadau beth mae'n ei ddweud;ac yn cael ei dalu am beth mae'n ei wneud.
15. Mae'r ffŵl byrbwyll yn meddwl ei fod e'n gwybod orau;ond mae'r person doeth yn derbyn cyngor.
16. Mae'r ffŵl yn dangos ar unwaith ei fod wedi gwylltio,ond mae'r person call yn anwybyddu'r ffaith ei fod wedi ei sarhau.
17. Mae tyst gonest yn dweud y gwir,ond tyst celwyddog yn twyllo.
18. Mae siarad yn fyrbwyll fel cleddyf yn trywanu,ond mae geiriau doeth yn iacháu.
19. Mae geiriau gwir yn aros bob amser,ond celwydd yn para ond am ennyd.