Diarhebion 11:7-25 beibl.net 2015 (BNET)

7. Pan mae rhywun drwg yn marw, dyna ni – does dim gobaithdydy'r cyfoeth oedd ganddo yn dda i ddim bellach.

8. Mae'r cyfiawn yn cael ei achub rhag helyntion,a'r un sy'n gwneud drwg yn gorfod cymryd ei le!

9. Mae'r annuwiol yn dinistrio pobl gyda'i eiriau,ond mae'r cyfiawn yn deall hynny ac yn cael ei arbed.

10. Pan mae'r cyfiawn yn llwyddo mae'r ddinas wrth ei bodd;mae gweiddi llawen ynddi pan mae'r rhai drwg yn cael eu dinistrio.

11. Mae dinas yn ffynnu pan mae pobl dda yn cael eu bendithio,ond mae geiriau pobl ddrwg yn ei dinistrio hi.

12. Does dim sens gan rywun sy'n bychanu pobl eraill;mae'r person call yn cadw'n dawel.

13. Mae'r un sy'n hel clecs yn bradychu cyfrinach,ond mae ffrind go iawn yn cadw cyfrinach.

14. Heb arweiniad clir mae gwlad yn methu,mae llwyddiant yn dod gyda digon o gyngor doeth.

15. Mae gwarantu benthyciad i rywun dieithr yn gofyn am drwbwl;gwell bod yn saff a gwrthod.

16. Mae gwraig hael yn ennill parch;mae dynion creulon yn cipio cyfoeth.

17. Mae person caredig yn gwneud lles iddo'i hun,a rhywun sy'n greulon yn achosi trwbwl iddo'i hun.

18. Dydy'r elw mae pobl ddrwg yn ei wneud yn ddim byd ond rhith,ond mae'r rhai sy'n gweithio dros gyfiawnder yn cael gwobr go iawn.

19. Mae gwir gyfiawnder yn arwain at fywyd,ond dilyn y drwg yn arwain at farwolaeth.

20. Mae'n gas gan yr ARGLWYDD bobl sy'n twyllo,ond mae'r rhai sy'n byw yn onest yn rhoi pleser iddo.

21. Fydd pobl ddrwg yn sicr ddim yn osgoi cosb,ond bydd y rhai sy'n byw'n iawn yn cael mynd yn rhydd.

22. Mae gwraig hardd heb sensfel modrwy aur yn nhrwyn hwch.

23. Dydy'r cyfiawn ond eisiau gwneud beth sy'n dda;ond mae gobaith pobl ddrwg yn arwain i ddigofaint.

24. Mae un yn rhoi yn hael, ac yn ennill mwy o gyfoeth;ac un arall yn grintachlyd, ac ar ei golled.

25. Mae'r bobl sy'n fendith i eraill yn llwyddo;a'r rhai sy'n rhoi dŵr i eraill yn cael eu diwallu.

Diarhebion 11