10. Pan mae'r cyfiawn yn llwyddo mae'r ddinas wrth ei bodd;mae gweiddi llawen ynddi pan mae'r rhai drwg yn cael eu dinistrio.
11. Mae dinas yn ffynnu pan mae pobl dda yn cael eu bendithio,ond mae geiriau pobl ddrwg yn ei dinistrio hi.
12. Does dim sens gan rywun sy'n bychanu pobl eraill;mae'r person call yn cadw'n dawel.
13. Mae'r un sy'n hel clecs yn bradychu cyfrinach,ond mae ffrind go iawn yn cadw cyfrinach.
14. Heb arweiniad clir mae gwlad yn methu,mae llwyddiant yn dod gyda digon o gyngor doeth.
15. Mae gwarantu benthyciad i rywun dieithr yn gofyn am drwbwl;gwell bod yn saff a gwrthod.
16. Mae gwraig hael yn ennill parch;mae dynion creulon yn cipio cyfoeth.
17. Mae person caredig yn gwneud lles iddo'i hun,a rhywun sy'n greulon yn achosi trwbwl iddo'i hun.
18. Dydy'r elw mae pobl ddrwg yn ei wneud yn ddim byd ond rhith,ond mae'r rhai sy'n gweithio dros gyfiawnder yn cael gwobr go iawn.
19. Mae gwir gyfiawnder yn arwain at fywyd,ond dilyn y drwg yn arwain at farwolaeth.
20. Mae'n gas gan yr ARGLWYDD bobl sy'n twyllo,ond mae'r rhai sy'n byw yn onest yn rhoi pleser iddo.