Diarhebion 10:25-28 beibl.net 2015 (BNET)

25. Fydd dim sôn am bobl ddrwg pan fydd y corwynt wedi mynd heibio,Ond mae sylfeini'r rhai sy'n byw'n iawn yn aros yn gadarn.

26. Mae anfon rhywun diog ar neges,fel yfed finegr, neu gael mwg yn eich llygaid.

27. Mae parchu'r ARGLWYDD yn rhoi bywyd hir i chi,ond mae blynyddoedd y rhai drwg yn cael eu byrhau.

28. Gall y cyfiawn edrych ymlaen at lawenydd,ond does gan bobl ddrwg ddim gobaith.

Diarhebion 10