1. Diarhebion Solomon:Mae plentyn doeth yn gwneud ei dad yn hapus;ond plentyn ffôl yn gwneud ei fam yn drist.
2. Dydy ennill ffortiwn trwy dwyll o ddim lles,ond mae gonestrwydd yn achub bywyd o berygl marwol.
3. Dydy'r ARGLWYDD ddim yn gadael i rywun cyfiawn lwgu,Ond mae'n rhwystro'r rhai drwg rhag cael beth maen nhw eisiau.
4. Mae diogi yn arwain i dlodi,ond gwaith caled yn ennill cyfoeth.
5. Mae'r un sy'n casglu ei gnwd yn yr haf yn gall,ond yr un sy'n cysgu drwy'r cynhaeaf yn achosi cywilydd.
6. Mae cawodydd o fendith yn disgyn ar y cyfiawn,ond mae geiriau pobl ddrwg yn cuddio creulondeb.
7. Mae'n fendith cofio am rywun cyfiawn,ond bydd enw'r drwg yn pydru.