Diarhebion 1:10-26 beibl.net 2015 (BNET)

10. Fy mab, os ydy cwmni drwg yn ceisio dy ddenu di,paid mynd gyda nhw.

11. Os dwedan nhw, “Tyrd gyda ni!Gad i ni guddio i ymosod ar rywun;mygio rhywun diniwed am ddim rheswm!

12. Gad i ni eu llyncu nhw'n fyw, fel y bedd;a rhoi crasfa iawn iddyn nhw, nes byddan nhw bron marw.

13. Cawn ni pob math o bethau gwerthfawr;a llenwi ein tai gyda phethau wedi eu dwyn.

14. Tyrd gyda ni! Bydd yn fentrus! –byddwn yn rhannu popeth gawn ni.”

15. Fy mab, paid mynd y ffordd yna;cadw draw oddi wrthyn nhw.

16. Maen nhw'n rhuthro i wneud drwg;maen nhw ar frys i dywallt gwaed.

17. Fel mae'r rhwyd sy'n cael ei gosodyn golygu dim byd i'r aderyn,

18. dŷn nhw ddim yn gweld y perygl –maen nhw'n dinistrio eu bywydau eu hunain!

19. Ie, dyna sy'n digwydd i'r rhai sy'n elwa ar draul eraill;mae ymddwyn felly yn difetha bywyd y person ei hun!

20. Mae doethineb yn gweiddi ar y strydoedd,ac yn codi ei llais ar y sgwâr.

21. Mae'n sefyll ar gorneli'r strydoedd prysur ac yn galw allan;ac yn dweud ei dweud wrth giatiau'r ddinas:

22. “Ydych chi bobl wirion yn mwynhau anwybodaeth?Ydych chi sy'n gwawdio am ddal ati?A chi rai dwl, ydych chi byth eisiau dysgu?

23. Peidiwch diystyru beth dw i'n ddweud!Dw i'n mynd i dywallt fy nghalon,a dweud beth sydd ar fy meddwl wrthoch chi.

24. Roeddech chi wedi gwrthod ymateb pan o'n i'n galw,ac yn cymryd dim sylw pan wnes i estyn llaw atoch chi.

25. Roeddech chi'n diystyru'r cyngor oedd gen iac yn gwrthod gwrando arna i'n ceryddu.

26. Ond fi fydd yn chwerthin pan fyddwch chi mewn trafferthion;fi fydd yn gwawdio pan fyddwch chi'n panicio!

Diarhebion 1