1. Diarhebion Solomon, mab Dafydd, brenin Israel:
2. I dy helpu i fod yn ddoeth a dysgu byw yn iawn;ac i ti ddeall beth sy'n gyngor call.
3. I ti ddysgu sut i fod yn bwyllog,yn gyfiawn, yn gytbwys, ac yn deg.
4. I ddysgu rhai gwirion i fod yn gall,a dangos y ffordd iawn i bobl ifanc.
5. (Bydd y doeth yn gwrando ac eisiau dysgu mwy;a'r rhai sy'n gall yn derbyn arweiniad.)
6. Hefyd i ti ddeall dihareb a gallu dehonglidywediadau doeth a phosau.
7. Parchu'r ARGLWYDD ydy'r cam cyntaf at wybodaeth;does gan ffyliaid ddim diddordeb mewn bod yn ddoeth na dysgu byw yn iawn.
8. Fy mab, gwrando ar beth mae dy dad yn ei ddweud;a paid anghofio beth ddysgodd dy fam i ti.
9. Bydd beth ddysgon nhw i ti fel torch hyfryd ar dy ben,neu gadwyni hardd am dy wddf.