Deuteronomium 7:24-26 beibl.net 2015 (BNET)

24. Byddwch chi'n dal eu brenhinoedd nhw, ac yn eu lladd. Fydd neb yn cofio eu bod nhw wedi byw erioed!

25. Llosgwch y delwau o'u duwiau nhw. Peidiwch hyd yn oed cadw'r aur sy'n eu gorchuddio nhw, rhag i chi gael eich trapio ganddo. Mae'r pethau yma yn hollol ffiaidd gan yr ARGLWYDD eich Duw.

26. Peidiwch mynd รข dim byd felly i'ch tai, neu byddwch chi dan felltith fel y peth ffiaidd ei hun! Rhaid i chi ei ffieiddio a'i wrthod fel rhywbeth mae'r ARGLWYDD eisiau ei ddinistrio.

Deuteronomium 7