Deuteronomium 5:16-21 beibl.net 2015 (BNET)

16. Rhaid i ti barchu dy dad a dy fam,a byddi'n byw yn hir yn y wlad mae'r ARGLWYDD dy Dduw yn ei rhoi i ti.

17. Paid llofruddio.

18. Paid godinebu.

19. Paid dwyn.

20. Paid rhoi tystiolaeth ffals yn erbyn rhywun.

21. Paid chwennych gwraig rhywun arall.Paid chwennych ei dŷ na'i dir,na'i was, na'i forwyn, na'i darw, na'i asyn,na dim byd sydd gan rywun arall.’

Deuteronomium 5