Deuteronomium 5:1-6 beibl.net 2015 (BNET)

1. Dyma Moses yn galw pobl Israel at ei gilydd ac yn dweud wrthyn nhw: “Israel, gwrandwch ar y rheolau a'r canllawiau dw i'n ei rhoi i chi heddiw. Dw i eisiau i chi eu dysgu nhw, a'u cadw nhw.

2. “Roedd yr ARGLWYDD ein Duw wedi gwneud ymrwymiad gyda ni wrth fynydd Sinai.

3. Gwnaeth hynny nid yn unig gyda'n rhieni, ond gyda ni sy'n fyw yma heddiw.

4. Siaradodd Duw gyda ni wyneb yn wyneb, o ganol y tân ar y mynydd.

5. (Fi oedd yn sefyll yn y canol rhyngoch chi â'r ARGLWYDD, am fod gynnoch chi ofn, a ddim eisiau mynd yn agos ar y mynydd. Fi oedd yn dweud wrthoch chi beth oedd neges yr ARGLWYDD.) A dyma ddwedodd e:

6. “‘Fi ydy'r ARGLWYDD eich Duw chi.Fi wnaeth eich achub chi o wlad yr Aifft,lle roeddech chi'n gaethweision.

Deuteronomium 5