Deuteronomium 29:9-19 beibl.net 2015 (BNET)

9. “Felly gwnewch yn siŵr eich bod chi'n cadw amodau'r ymrwymiad yma, a bydd popeth wnewch chi yn llwyddo.

10. Dych chi i gyd yn sefyll yma heddiw o flaen yr ARGLWYDD eich Duw – arweinwyr y llwythau, henuriaid, swyddogion, dynion,

11. plant, gwragedd, a'r bobl o'r tu allan sydd gyda chi, y rhai sy'n torri coed ac yn cario dŵr.

12. Dych chi i gyd yma i gytuno i amodau'r ymrwymiad mae'r ARGLWYDD eich Duw yn ei wneud gyda chi.

13. Heddiw bydd e'n cadarnhau mai chi ydy ei bobl e, ac mai fe ydy eich Duw chi, fel gwnaeth e addo i chi ar lw i Abraham, Isaac a Jacob.

14. A dim chi sydd yma ydy'r unig rai dw i'n gwneud yr ymrwymiad yma gyda nhw,

15. ond pawb sy'n fodlon sefyll gyda ni o flaen yr ARGLWYDD ein Duw, a rhai sydd ddim wedi ei geni eto.

16. “Dych chi'n gwybod sut roedden ni'n byw yn yr Aifft, a sut roedd rhaid croesi'r gwahanol wledydd wrth deithio.

17. Dych chi wedi gweld eu pethau ffiaidd nhw, a'i heilun-dduwiau o bren, carreg, arian ac aur.

18. Gwnewch yn siŵr fod neb yn troi cefn ar yr ARGLWYDD ein Duw, a dechrau addoli duwiau'r cenhedloedd hynny – gŵr, gwraig, teulu na llwyth. Byddai hynny fel gadael i wreiddyn sy'n rhoi ffrwyth gwenwynig, chwerw, dyfu yn eich plith chi.

19. Mae person felly yn clywed amodau'r ymrwymiad yma, ac eto'n dawel fach yn bendithio'i hun a dweud, ‘Bydd popeth yn iawn hyd yn oed os gwna i dynnu'n groes!’ Mae peth felly yn dinistrio'r tir da gyda'r tir sych.

Deuteronomium 29