16. Cewch eich melltithio ble bynnag dych chi'n gweithio.
17. Fydd dim grawn yn eich basged, a dim bwyd ar eich bwrdd.
18. Bydd eich plant, a chynnyrch eich tir wedi eu melltithio – fydd eich gwartheg, defaid a geifr ddim yn cael rhai bach.
19. Cewch eich melltithio ble bynnag ewch chi.
20. Bydd yr ARGLWYDD yn melltithio, drysu a gwrthwynebu popeth wnewch chi, nes byddwch chi wedi'ch dinistrio ac wedi diflannu o achos yr holl ddrwg fyddwch chi'n ei wneud, ac am eich bod chi wedi troi cefn arna i.
21. Bydd yr ARGLWYDD yn gwneud i chi ddal heintiau marwol, nes bydd e wedi cael gwared â chi'n llwyr o'r tir dych chi ar fin ei gymryd drosodd.
22. Byddwch yn dioddef o afiechydon ellir mo'i gwella, gwres uchel, llid, heintiau, sychder, cnydau wedi eu difetha gan ormod o wres neu ormod o law. Fyddan nhw ddim yn stopio nes byddwch chi wedi diflannu.
23. Bydd yr awyr uwch eich pennau fel pres, a'r ddaear dan eich traed yn galed fel haearn, am fod dim glaw.
24. Bydd yr ARGLWYDD yn gwneud iddi lawio llwch a lludw. Bydd yn disgyn arnoch chi o'r awyr nes byddwch chi wedi'ch difa.
25. Bydd yr ARGLWYDD yn gadael i'ch gelynion eich trechu chi. Byddwch chi'n ymosod arnyn nhw o un cyfeiriad, ond yn gorfod dianc i bob cyfeiriad! Bydd beth fydd yn digwydd i chi yn ddychryn i wledydd y byd i gyd.
26. Bydd eich cyrff marw yn fwyd i'r holl adar ac anifeiliaid gwylltion, a fydd yna neb ar ôl i'w dychryn nhw i ffwrdd.
27. Bydd yr ARGLWYDD yn gwneud i chi ddioddef o'r chwyddau wnaeth daro pobl yr Aifft, briwiau cas, crach ar y croen, a'r cosi – a fydd dim gwella i chi.
28. Bydd yr ARGLWYDD yn achosi panig, a'ch gwneud yn ddall ac yn ddryslyd.
29. Byddwch chi'n ymbalfalu ganol dydd fel rhywun dall sydd yn y tywyllwch, a fydd dim fyddwch chi'n ei wneud yn llwyddo. Bydd pobloedd eraill yn eich cam-drin chi ac yn dwyn oddi arnoch chi o hyd, a fydd yna neb i'ch achub chi.
30. Bydd dyn wedi dyweddïo gyda merch, a bydd dyn arall yn ei threisio hi.Byddwch chi'n adeiladu tŷ ond ddim yn cael byw ynddo.Byddwch chi'n plannu gwinllan, ond ddim yn casglu ei ffrwyth.