Deuteronomium 23:5-16 beibl.net 2015 (BNET)

5. Ond dyma'r ARGLWYDD eich Duw yn gwrthod gwrando arno, ac yn troi'r felltith yn fendith! Mae'r ARGLWYDD eich Duw yn eich caru chi.

6. Felly peidiwch byth gwneud unrhyw beth i helpu Ammon a Moab i lwyddo a ffynnu.

7. “Ond mae pobl Edom yn perthyn i chi, felly rhaid i chi beidio eu ffieiddio nhw. A peidiwch ffieiddio pobl yr Aifft, gan eich bod wedi byw fel mewnfudwr yn eu gwlad nhw.

8. Gall plant eu plant berthyn i gynulleidfa pobl yr ARGLWYDD.

9. Pan fyddwch chi'n mynd allan i ymladd yn erbyn eich gelynion, cadwch draw oddi wrth unrhyw beth sydd ddim yn lân.

10. Er enghraifft, os ydy dyn yn gollwng ei had yn ei gwsg, mae'n aflan, a rhaid iddo adael y gwersyll, ac aros allan drwy'r dydd.

11. Yna gyda'r nos rhaid iddo olchi ei hun gyda dŵr. A bydd yn gallu mynd yn ôl i'r gwersyll ar ôl i'r haul fachlud.

12. Rhaid trefnu lle tu allan i'r gwersyll i'r dynion fynd i'r tŷ bach.

13. Rhaid i ti fynd â rhaw gyda ti i wneud twll, a gorchuddio dy garthion gyda pridd.

14. Mae'r gwersyll i'w gadw'n lân. Mae'r ARGLWYDD eich Duw yn cerdded o gwmpas y gwersyll; mae e gyda chi i'ch achub a'ch galluogi chi i ennill y frwydr. Does gynnoch chi ddim eisiau iddo fe weld rhywbeth afiach, a troi cefn arnoch chi.

15. Os ydy caethwas o wlad arall wedi dianc i wlad Israel, peidiwch mynd ag e yn ôl i'w feistr.

16. Mae i gael byw ble bynnag mae e eisiau. Caiff ddewis unrhyw un o'ch pentrefi i fynd i fyw yno. Peidiwch â'i gam-drin a chymryd mantais ohono.

Deuteronomium 23