Deuteronomium 20:4-14 beibl.net 2015 (BNET)

4. Mae'r ARGLWYDD eich Duw yn mynd gyda chi i ymladd yn erbyn eich gelynion, a'ch helpu chi i ennill y frwydr.’

5. “Yna mae'r swyddogion i ddweud wrth y milwyr, ‘Oes rhywun yma wedi adeiladu tŷ ac heb ei gyflwyno i Dduw? Gall fynd adre, rhag ofn iddo gael ei ladd yn y frwydr, ac i rywun arall gysegru'r tŷ.

6. Oes rhywun yma wedi plannu gwinllan, ac heb eto gael ffrwyth ohoni? Gall fynd adre, rhag ofn iddo gael ei ladd yn y frwydr, ac i rywun arall gael y ffrwyth.

7. Neu oes rhywun yma sydd wedi dyweddïo gyda merch, ond heb eto ei phriodi hi? Gall fynd adre, rhag ofn iddo gael ei ladd yn y frwydr, ac i rywun arall ei phriodi hi.’

8. Maen nhw hyd yn oed i ddweud, ‘Oes rhywun yma sy'n nerfus ac yn ofnus? Gall fynd adre, rhag iddo wneud i'r milwyr eraill golli hyder hefyd.’

9. Ar ôl i'r swyddogion ddweud hyn i gyd, maen nhw i benodi capteiniaid i arwain unedau milwrol.

10. “Pan fydd y fyddin yn dod yn agos at dref maen nhw'n bwriadu ymosod arni, maen nhw i gynnig telerau heddwch iddi gyntaf.

11. Os byddan nhw'n cytuno i'r telerau ac yn ildio i chi, bydd y bobl i gyd yn gweithio fel caethweision i chi.

12. Os ydyn nhw'n gwrthod derbyn eich telerau chi, dych chi i warchae ar y dref.

13. Bydd yr ARGLWYDD eich Duw yn eich galluogi chi i'w choncro. Rhaid i chi ladd y dynion i gyd.

14. Ond gallwch gadw'r merched, y plant, yr anifeiliaid, ac unrhyw beth arall gwerthfawr sydd yn y dref. Cewch gadw'r holl stwff mae'r ARGLWYDD yn ei roi i chi.

Deuteronomium 20