1. Yna gwelais fod sgrôl yn llaw dde yr Un oedd yn eistedd ar yr orsedd. Roedd ysgrifen ar ddwy ochr y sgrôl ac roedd wedi ei selio â saith sêl.
2. Wedyn gwelais angel pwerus yn cyhoeddi'n uchel, “Pwy sy'n deilwng i dorri'r seliau ar y sgrôl a'i hagor?”
3. Ond doedd neb yn y nefoedd na'r ddaear na than y ddaear yn gallu agor y sgrôl i'w darllen.
4. Dyma fi'n dechrau beichio crïo am fod neb yn deilwng i agor y sgrôl a'i darllen.
5. Ond dyma un o'r arweinyddion ysbrydol yn dweud wrtho i, “Stopia grïo! Edrych! Mae'r Llew o lwyth Jwda, disgynnydd y Brenin Dafydd, wedi ennill y frwydr. Mae e'n gallu torri'r saith sêl ac agor y sgrôl.”
6. Yna gwelais Oen oedd yn edrych fel petai wedi ei ladd. Roedd yn sefyll rhwng yr orsedd a'r pedwar creadur byw a'r arweinwyr ysbrydol oedd o'i chwmpas hi. Roedd ganddo saith corn a saith llygad (yn cynrychioli Ysbryd cyflawn perffaith Duw sydd wedi ei anfon allan drwy'r byd i gyd).
7. Aeth i gymryd y sgrôl o law dde yr Un oedd yn eistedd ar yr orsedd.