Datguddiad 21:13-27 beibl.net 2015 (BNET)

13. Roedd tair giât ar yr ochr ddwyreiniol, tair i'r gogledd, tair i'r de a thair i'r gorllewin.

14. Roedd gan wal y ddinas ddeuddeg carreg sylfaen, ac roedd enwau deuddeg cynrychiolydd yr Oen wedi eu hysgrifennu ar y rheiny.

15. Roedd ffon fesur aur gan yr angel oedd yn siarad gyda mi, er mwyn iddo fesur y ddinas, ei giatiau a'i waliau.

16. Roedd y ddinas yn berffaith sgwâr. Pan fesurodd yr angel y ddinas gyda'r ffon fesur cafodd ei bod hi'n 2,250 cilomedr o hyd, ac mai dyna hefyd oedd ei lled a'i huchder.

17. Pan fesurodd yr angel y wal, cafodd ei bod yn chwe deg pum metr o drwch – yn ôl y mesur cyffredin.

18. Roedd y wal wedi ei hadeiladu o faen iasbis, a'r ddinas wedi ei gwneud o aur pur, mor bur â gwydr.

19. Roedd sylfeini waliau'r ddinas wedi eu haddurno gyda phob math o emau gwerthfawr. Maen iasbis oedd y sylfaen cyntaf, saffir oedd yr ail, y trydydd yn galcedon, a'r pedwerydd yn emrallt;

20. onics oedd y pumed, carnelian y chweched, saffir melyn y seithfed, beryl yr wythfed, topas y nawfed, a crysopras y degfed; maen iasinth oedd yr unfed ar ddeg ac amethyst oedd y deuddegfed.

21. Roedd giatiau'r ddinas wedi eu gwneud o berlau, pob giât unigol wedi ei gwneud o un perl mawr. Ac roedd heol fawr y ddinas yn aur oedd mor bur â gwydr clir!

22. Doedd dim teml i'w gweld yn y ddinas, am fod yr Arglwydd Dduw Hollalluog a'r Oen yno, fel teml.

23. Does dim angen golau haul na lleuad yn y ddinas chwaith, am fod ysblander Duw ei hun yn ei goleuo hi, a'r Oen fel lamp yn ei goleuo hi.

24. Bydd y cenhedloedd yn byw yn ei golau, a bydd brenhinoedd y ddaear yn dod â'u holl gyfoeth i mewn iddi hi.

25. Fydd ddim rhaid i'w giatiau gael eu cau o gwbl, achos fydd dim nos yno.

26. Bydd holl ysblander a chyfoeth y cenhedloedd yn cael eu dwyn i mewn iddi.

27. Ond fydd dim byd aflan yn cael mynd i mewn iddi, nac unrhyw un sy'n gwneud pethau ffiaidd neu'n twyllo chwaith; dim ond y bobl hynny sydd â'u henwau wedi eu hysgrifennu yn Llyfr Bywyd yr Oen.

Datguddiad 21