1. Yna gwelais nefoedd newydd a daear newydd. Roedd y ddaear a'r awyr gyntaf wedi diflannu. Doedd y môr ddim yn bodoli ddim mwy.
2. Dyma fi'n gweld y ddinas sanctaidd, y Jerwsalem newydd, yn dod i lawr oddi wrth Dduw yn y nefoedd. Roedd yn edrych fel merch ifanc wedi ei gwisgo'n hardd ar gyfer ei phriodas.
3. Wedyn clywais lais o'r orsedd yn cyhoeddi'n glir, “Bellach mae pabell Duw yng nghanol y bobloedd. Bydd yn byw yn eu canol nhw, a byddan nhw'n bobl iddo. Bydd Duw ei hun gyda nhw, a fe fydd eu Duw nhw.
4. Bydd yn sychu pob deigryn o'u llygaid nhw. Fydd dim marwolaeth o hyn ymlaen, dim galaru, dim wylo, dim poen. Mae pethau fel yr oedden nhw wedi mynd.”
5. Dyma'r Un oedd yn eistedd ar yr orsedd yn dweud,“Edrychwch! Dw i'n gwneud popeth yn newydd!”Meddai wedyn, “Ysgrifenna hynny i lawr. Mae beth dw i'n ei ddweud yn gwbl ddibynadwy ac yn wir.”
6. Meddai wrtho i: “Dyna ddiwedd y cwbl! Fi ydy'r Alffa a'r Omega, y Dechrau a'r Diwedd. Bydda i'n rhoi diod o ffynnon dŵr y bywyd i'r rhai hynny sy'n sychedig – yn rhad ac am ddim!
7. Bydd y rhai sy'n ennill y frwydr yn etifeddu'r pethau yma i gyd. Fi fydd eu Duw nhw, a byddan nhw'n blant i mi.
8. Ond am y rhai llwfr hynny sydd ddim yn credu, a phobl ffiaidd, llofruddion, pobl sy'n anfoesol yn rhywiol, y rhai sy'n ymarfer dewiniaeth ac yn addoli eilun-dduwiau, ac sy'n dweud celwydd – y llyn tân sy'n llosgi brwmstan ydy eu lle nhw! Dyna'r ‛ail farwolaeth‛.”
9. Yna dyma un o'r saith angel oedd yn dal y powlenni llawn o'r saith pla olaf yn dod ata i a dweud, “Tyrd, a gwna i ddangos y briodferch i ti, sef gwraig yr Oen.”
10. Dyma'r angel yn fy nghodi dan ddylanwad yr Ysbryd a mynd a fi i fynydd mawr uchel. Dangosodd y ddinas sanctaidd i mi, Jerwsalem, yn dod i lawr oddi wrth Dduw yn y nefoedd.
11. Roedd ysblander Duw ei hun yn tywynnu ohoni; roedd hi'n disgleirio fel gem anhygoel o werthfawr – fel iasbis, yn glir fel grisial!
12. Roedd anferth o wal uchel o'i chwmpas gyda deuddeg giât ynddi, a deuddeg angel yn gwarchod y giatiau. Roedd enwau deuddeg llwyth Israel wedi eu hysgrifennu ar y giatiau.
13. Roedd tair giât ar yr ochr ddwyreiniol, tair i'r gogledd, tair i'r de a thair i'r gorllewin.