Datguddiad 20:2-11 beibl.net 2015 (BNET)

2. Gafaelodd yn y ddraig (yr hen sarff, sef ‛y diafol‛, ‛Satan‛), a'i rhwymo'n gaeth am fil o flynyddoedd.

3. Dyma'r angel yn ei thaflu hi i lawr i'r pydew diwaelod, ai gloi a'i selio er mwyn rhwystro'r ddraig rhag twyllo'r cenhedloedd ddim mwy, nes bydd y mil o flynyddoedd drosodd. Ar ôl hynny mae'n rhaid iddi gael ei gollwng yn rhydd am gyfnod byr.

4. Wedyn gwelais orseddau, a'r rhai oedd wedi cael yr awdurdod i farnu yn eistedd arnyn nhw. A gwelais y rhai oedd wedi cael eu dienyddio am dystio i Iesu ac am gyhoeddi neges Duw yn ffyddlon. Doedd y rhain ddim wedi addoli'r anghenfil na'i ddelw, a doedd ei farc ddim wedi cael ei roi ar eu talcennau a'u dwylo. Dyma nhw'n dod yn fyw ac yn teyrnasu gyda'r Meseia am fil o flynyddoedd.

5. (Wnaeth pawb arall oedd wedi marw ddim dod yn ôl yn fyw nes oedd y mil o flynyddoedd drosodd.) Dyma'r atgyfodiad cyntaf.

6. Mae'r rhai sydd wedi eu neilltuo ac sy'n cael bod yn rhan o'r atgyfodiad cyntaf yma wedi eu bendithio'n fawr! Does gan beth sy'n cael ei alw'n ‛ail farwolaeth‛ ddim gafael ynddyn nhw. Byddan nhw'n offeiriaid yn gwasanaethu Duw a'r Meseia, a byddan nhw'n teyrnasu gydag e am fil o flynyddoedd.

7. Pan fydd y mil o flynyddoedd drosodd bydd Satan yn cael ei ryddhau o'i garchar.

8. Bydd yn mynd allan i bedwar ban byd i dwyllo'r cenhedloedd – Gog a Magog – ac yn eu casglu at ei gilydd i ymladd yn y frwydr. Nifer enfawr ohonyn nhw, fel y tywod ar lan y môr!

9. Dyma nhw'n martsio o un pen i'r ddaear i'r llall ac yn amgylchynu gwersyll pobl Dduw, sef y ddinas mae Duw yn ei charu. Ond daeth tân i lawr o'r nefoedd a'u dinistrio nhw.

10. A dyma'r diafol oedd wedi eu twyllo nhw yn cael ei daflu i'r llyn tân sy'n llosgi brwmstan, ble roedd yr anghenfil a'r proffwyd ffug wedi cael eu taflu. Byddan nhw'n cael eu poenydio ddydd a nos am byth bythoedd.

11. Yna gwelais orsedd wen fawr a Duw yn eistedd arni. Dyma'r ddaear a'r awyr yn dianc oddi wrtho ac yn diflannu am byth.

Datguddiad 20