Datguddiad 19:4-7 beibl.net 2015 (BNET)

4. Dyma'r dau ddeg pedwar arweinydd ysbrydol a'r pedwar creadur byw yn syrthio i lawr ar eu hwynebau ac yn addoli Duw, oedd yn eistedd ar yr orsedd, a chanu:“Amen! Haleliwia!”

5. Wedyn dyma lais yn dod o'r orsedd yn dweud:“Molwch ein Duw!Pawb sy'n ei wasanaethu,a chi sy'n ei ofni,yn fawr a bach!”

6. Wedyn clywais rywbeth oedd yn swnio'n debyg i dyrfa enfawr o bobl, neu sŵn rhaeadrau o ddŵr neu daran uchel:“Haleliwia!Mae'r Arglwydd Dduw Hollalluogwedi dechrau teyrnasu.

7. Gadewch i ni ddathlu a gorfoleddua rhoi clod iddo!Mae diwrnod priodas yr Oen wedi cyrraedd,ac mae'r ferch sydd i'w briodi wedi gwneud ei hun yn barod.

Datguddiad 19