Datguddiad 19:10-13 beibl.net 2015 (BNET)

10. Yna syrthiais i lawr wrth ei draed a'i addoli. Ond meddai, “Paid! Duw ydy'r unig un rwyt i'w addoli! Un sy'n gwasanaethu Duw ydw i, yn union yr un fath â ti a'th frodyr a'th chwiorydd sy'n glynu wrth y dystiolaeth sydd wedi ei rhoi gan Iesu. Mae'r dystiolaeth sydd wedi ei rhoi gan Iesu a phroffwydoliaeth yr Ysbryd yr un fath.”

11. Roedd y nefoedd yn llydan ar agor, ac o'm blaen i roedd ceffyl gwyn â marchog ar ei gefn. ‛Yr Un ffyddlon‛ ydy'r enw arno, a'r ‛Un gwir‛. Mae'n gyfiawn yn y ffordd mae'n barnu ac yn ymladd yn erbyn ei elynion.

12. Roedd ei lygaid fel fflam dân, ac roedd llawer o goronau ar ei ben. Roedd ganddo enw wedi ei ysgrifennu arno, a neb yn gwybod yr enw ond fe'i hun.

13. Roedd yn gwisgo mantell oedd wedi ei throchi mewn gwaed, a'i enw oedd ‛Gair Duw‛.

Datguddiad 19