Datguddiad 18:4-17 beibl.net 2015 (BNET)

4. Wedyn clywais lais arall o'r nefoedd yn dweud: “Fy mhobl, dewch allan o'r ddinas, er mwyn i chi beidio pechu gyda hi.Wedyn bydd y plâu fydd yn dod i'w chosbi hiddim yn eich cyffwrdd chi.

5. Mae ei phechodau hi yn bentwr anferth i'r nefoedd,ac mae Duw wedi cofio ei holl droseddau hi.

6. Gwna iddi hi beth mae hi wedi ei wneud i eraill; tala nôl iddi ddwywaith cymaint ag mae wedi ei wneud. Rho iddi siâr ddwbl o'i ffisig ei hun!

7. Yn lle'r ysblander a'r moethusrwydd gymerodd iddi ei hun,rho'r un mesur o boen a gofid iddi hi.Mae hi mor siŵr ohoni hi ei hun!‘Brenhines ydw i, yn eistedd ar orsedd;fydda i ddim yn weddw,a fydd dim rhaid i mi alaru byth!’ meddai.

8. Dyna'n union pam bydd y plâu yn ei tharo'n sydyn:marwolaeth, galar a newyn.Bydd yn cael ei dinistrio gan dân,oherwydd mae'r Arglwydd Dduw sy'n ei barnu hi yn Dduw grymus!

9. “Bydd brenhinoedd y ddaear gafodd ryw gyda'r butain a rhannu ei moethusrwydd, yn crïo'n chwerw wrth weld y mwg yn codi pan gaiff ei llosgi.

10. Byddan nhw'n sefyll yn bell i ffwrdd, mewn dychryn wrth weld beth mae'n ei ddioddef, ac yn gweiddi:‘Och! Och! Ti ddinas fawr!Babilon, y ddinas oedd â'r fath rym! –Daeth dy ddiwedd mor sydyn!’

11. “Bydd pobl fusnes y ddaear yn crïo ac yn galaru drosti hi am fod neb yn prynu ei chargo ddim mwy –

12. cargo o aur, arian, gemau gwerthfawr a pherlau, lliain main, defnydd porffor, sidan ac ysgarlad; nwyddau o goed Sitron, pethau wedi eu gwneud o ifori, a pob math o bethau eraill wedi eu gwneud o goed gwerthfawr, o efydd, haearn ac o farmor;

13. sinamon a pherlysiau, arogldarth fel myrr a thus, hefyd gwin ac olew olewydd, blawd mân a gwenith; gwartheg, defaid, ceffylau a cherbydau; a chaethweision hefyd – ie, pobl yn cael eu gwerthu fel anifeiliaid.

14. “Mae'r holl bethau roeddet ti'n dyheu amdanyn nhw wedi mynd! Dy holl gyfoeth a dy grandrwydd wedi diflannu! Fyddan nhw fyth yn dod nôl!

15. Bydd y bobl fusnes gafodd arian mawr wrth werthu'r pethau hyn iddi, yn sefyll yn bell i ffwrdd, mewn dychryn wrth weld beth mae'n ei ddioddef. Byddan nhw'n crïo ac yn galaru

16. ac yn gweiddi:‘Och! Och! Ti ddinas fawr!wedi dy wisgo mewn defnydd hardda gwisg o borffor ac ysgarlad,a'th addurno dy hun â thlysau o aura gemau gwerthfawr a pherlau!

17. Mae'r fath gyfoeth wedi ei ddinistrio mor sydyn!’ “Bydd capteiniaid llongau a phawb sy'n teithio ar y môr, yn forwyr a phawb arall sy'n ennill eu bywoliaeth o'r môr, yn sefyll yn bell i ffwrdd.

Datguddiad 18