13. sinamon a pherlysiau, arogldarth fel myrr a thus, hefyd gwin ac olew olewydd, blawd mân a gwenith; gwartheg, defaid, ceffylau a cherbydau; a chaethweision hefyd – ie, pobl yn cael eu gwerthu fel anifeiliaid.
14. “Mae'r holl bethau roeddet ti'n dyheu amdanyn nhw wedi mynd! Dy holl gyfoeth a dy grandrwydd wedi diflannu! Fyddan nhw fyth yn dod nôl!
15. Bydd y bobl fusnes gafodd arian mawr wrth werthu'r pethau hyn iddi, yn sefyll yn bell i ffwrdd, mewn dychryn wrth weld beth mae'n ei ddioddef. Byddan nhw'n crïo ac yn galaru
16. ac yn gweiddi:‘Och! Och! Ti ddinas fawr!wedi dy wisgo mewn defnydd hardda gwisg o borffor ac ysgarlad,a'th addurno dy hun â thlysau o aura gemau gwerthfawr a pherlau!
17. Mae'r fath gyfoeth wedi ei ddinistrio mor sydyn!’ “Bydd capteiniaid llongau a phawb sy'n teithio ar y môr, yn forwyr a phawb arall sy'n ennill eu bywoliaeth o'r môr, yn sefyll yn bell i ffwrdd.
18. Wrth weld y mwg yn codi am ei bod hi'n llosgi, byddan nhw'n gweiddi, ‘Oes dinas arall debyg i'r ddinas fawr hon?’
19. Byddan nhw'n taflu pridd ar eu pennau, ac yn crïo a galaru a gweiddi'n uchel:‘Och! Och! Ddinas fawr!cafodd pawb oedd ganddyn nhw longau ar y môrgyfoeth am ei bod hi mor gyfoethog!Mae hi wedi ei dinistrio mor sydyn!’
20. Bydd lawen, nefoedd, am beth sydd wedi digwydd iddi,Byddwch lawen, chi bobl Dduw, a'i gynrychiolwyr a'i broffwydi –Mae Duw wedi ei barnu hi am y ffordd wnaeth hi eich trin chi!”
21. Wedyn dyma angel pwerus yn codi anferth o garreg fawr, tebyg i faen melin mawr, a'i thaflu i'r môr; ac meddai:“Dyna sut fydd Babilon, y ddinas fawr,yn cael ei bwrw i lawr yn ffyrnig –fydd neb yn ei gweld byth mwy!