3. ac roedden nhw'n canu cân Moses, gwas Duw, a chân yr Oen:“Mae popeth rwyt yn ei wneudmor anhygoel a rhyfeddolArglwydd Dduw Hollalluog.Mae beth rwyt yn ei wneudyn gyfiawn a theg,Frenin pob oes.
4. Pwy fyddai ddim yn dy barchu di,a chanmol dy enw di, Arglwydd?Oherwydd dim ond ti sy'n sanctaidd.Bydd pobl y gwledydd i gyd yn dodi addoli o dy flaen di,oherwydd mae'n amlwgfod beth wnaethost ti yn gyfiawn.”
5. Yna ces i weledigaeth arall. Roedd y deml, sef ‛pabell y dystiolaeth‛, ar agor yn y nefoedd.
6. Allan ohoni daeth y saith angel gyda'r saith pla. Roedden nhw wedi eu gwisgo mewn lliain glân disglair, gyda sash aur am eu canol.
7. Wedyn dyma un o'r pedwar creadur byw yn rhoi powlen aur i bob un o'r saith angel. Roedd y powlenni yn llawn o ddigofaint y Duw sy'n byw am byth bythoedd.
8. Yna dyma fwg ysblander a nerth Duw yn llenwi'r deml. Doedd neb yn gallu mynd i mewn i'r deml nes i saith pla y saith angel ddigwydd.