Datguddiad 15:1-3 beibl.net 2015 (BNET)

1. Gwelais arwydd arall yn y nefoedd, un anhygoel a rhyfeddol: Saith angel gyda'r saith pla olaf. Y plâu yma fyddai'r mynegiant olaf o ddigofaint Duw.

2. A gwelais rywbeth oedd yn edrych yn debyg i fôr o wydr a thân fel petai'n ymledu drwyddo. Ar lan y môr o wydr safai'r bobl oedd wedi ennill y frwydr yn erbyn yr anghenfil a'i ddelw, a hefyd y rhif oedd yn cyfateb i'w enw. Roedd ganddyn nhw delynau roedd Duw wedi eu rhoi iddyn nhw,

3. ac roedden nhw'n canu cân Moses, gwas Duw, a chân yr Oen:“Mae popeth rwyt yn ei wneudmor anhygoel a rhyfeddolArglwydd Dduw Hollalluog.Mae beth rwyt yn ei wneudyn gyfiawn a theg,Frenin pob oes.

Datguddiad 15