Datguddiad 12:4-9 beibl.net 2015 (BNET)

4. Dyma gynffon y ddraig yn ysgubo un rhan o dair o'r sêr o'r awyr ac yn eu taflu i'r ddaear. Safodd y ddraig o flaen y wraig oedd ar fin geni plentyn, yn barod i lyncu ei phlentyn yr eiliad y byddai yn cael ei eni.

5. Cafodd y wraig fab – bachgen fydd yn teyrnasu dros yr holl genhedloedd gyda theyrnwialen haearn. Dyma'r plentyn yn cael ei gipio i fyny at Dduw ac at ei orsedd.

6. Dyma'r wraig yn dianc i'r anialwch i le oedd Duw wedi ei baratoi iddi, lle byddai hi'n ddiogel am fil dau gant chwe deg diwrnod.

7. Yna dyma ryfel yn cychwyn yn y nefoedd. Roedd Michael a'i angylion yn ymladd yn erbyn y ddraig. Roedd y ddraig a'i hangylion yn ymladd yn ôl,

8. ond doedd hi ddim digon cryf, a dyma nhw'n colli eu lle yn y nefoedd.

9. Dyma'r ddraig fawr yn cael ei hyrddio i lawr (sef yr hen sarff sy'n cael ei galw ‛y diafol‛ a ‛Satan‛ ac sy'n twyllo'r byd i gyd). Cafodd ei hyrddio i lawr i'r ddaear, a'i hangylion gyda hi.

Datguddiad 12