3. Yna bydda i'n rhoi awdurdod i'r ddau dyst sydd gen i, a byddan nhw'n gwisgo sachliain ac yn proffwydo am fil dau gant a chwe deg diwrnod.”
4. Nhw ydy'r ddwy goeden olewydd a'r ddwy ganhwyllbren sy'n sefyll o flaen Arglwydd y ddaear.
5. Os oes rhywun yn ceisio gwneud niwed iddyn nhw, mae tân yn dod allan o'u cegau ac yn dinistrio eu gelynion. Dyna sut mae unrhyw un sydd am wneud niwed iddyn nhw yn marw.
6. Maen nhw wedi cael yr awdurdod i wneud iddi beidio glawio yn ystod y cyfnod pan maen nhw'n proffwydo; ac mae ganddyn nhw'r gallu i droi dyfroedd yn waed ac i daro'r ddaear â phlâu mor aml â maen nhw eisiau.
7. Ond pan fydd yr amser iddyn nhw dystio ar ben, bydd yr anghenfil sy'n dod allan o'r pwll diwaelod yn ymosod arnyn nhw, ac yn eu trechu a'u lladd.
8. Bydd eu cyrff yn gorwedd ar brif stryd y ddinas fawr (sy'n cael ei galw yn broffwydol yn ‛Sodom‛ ac ‛Aifft‛) – y ddinas lle cafodd eu Harglwydd nhw ei groeshoelio.
9. Am dri diwrnod a hanner bydd pobl o bob hil, llwyth, iaith a chenedl yn edrych ar eu cyrff ac yn gwrthod eu claddu.
10. Bydd y bobl sy'n perthyn i'r ddaear wrth eu bodd ac yn dathlu a rhoi anrhegion i'w gilydd, am fod y ddau broffwyd yma wedi bod cymaint o boen iddyn nhw.
11. Ond, ar ôl tri diwrnod a hanner daeth anadl oddi wrth Dduw i roi bywyd ynddyn nhw, a dyma nhw'n sefyll ar eu traed. Roedd pawb welodd nhw wedi dychryn am eu bywydau.
12. Wedyn dyma nhw'n clywed llais pwerus o'r nefoedd yn dweud wrthyn nhw, “Dewch i fyny yma.” A dyma gwmwl yn eu codi nhw i fyny i'r nefoedd, tra roedd eu gelynion yn sefyll yn edrych ar y peth yn digwydd.
13. Y funud honno buodd daeargryn mawr a chafodd un rhan o ddeg o'r ddinas ei dinistrio. Cafodd saith mil o bobl eu lladd gan y daeargryn. Roedd pawb oedd yn dal yn fyw wedi dychryn am eu bywydau, a dyma nhw'n dechrau clodfori Duw'r nefoedd mewn panig.
14. Mae'r ail drychineb wedi digwydd; ond edrychwch mae trydydd ar fin dod.
15. Dyma'r seithfed angel yn canu utgorn, ac roedd lleisiau uchel yn y nefoedd yn dweud:“Mae teyrnas y bydwedi dod yn deyrnas ein Harglwydd a'i Feseia,a bydd yn teyrnasu am byth bythoedd.”
16. A dyma'r dau ddeg pedwar arweinydd ysbrydol, oedd yn eistedd ar eu gorseddau o flaen Duw, yn syrthio i lawr ar eu hwynebau ac yn addoli Duw,