Datguddiad 11:11-19 beibl.net 2015 (BNET)

11. Ond, ar ôl tri diwrnod a hanner daeth anadl oddi wrth Dduw i roi bywyd ynddyn nhw, a dyma nhw'n sefyll ar eu traed. Roedd pawb welodd nhw wedi dychryn am eu bywydau.

12. Wedyn dyma nhw'n clywed llais pwerus o'r nefoedd yn dweud wrthyn nhw, “Dewch i fyny yma.” A dyma gwmwl yn eu codi nhw i fyny i'r nefoedd, tra roedd eu gelynion yn sefyll yn edrych ar y peth yn digwydd.

13. Y funud honno buodd daeargryn mawr a chafodd un rhan o ddeg o'r ddinas ei dinistrio. Cafodd saith mil o bobl eu lladd gan y daeargryn. Roedd pawb oedd yn dal yn fyw wedi dychryn am eu bywydau, a dyma nhw'n dechrau clodfori Duw'r nefoedd mewn panig.

14. Mae'r ail drychineb wedi digwydd; ond edrychwch mae trydydd ar fin dod.

15. Dyma'r seithfed angel yn canu utgorn, ac roedd lleisiau uchel yn y nefoedd yn dweud:“Mae teyrnas y bydwedi dod yn deyrnas ein Harglwydd a'i Feseia,a bydd yn teyrnasu am byth bythoedd.”

16. A dyma'r dau ddeg pedwar arweinydd ysbrydol, oedd yn eistedd ar eu gorseddau o flaen Duw, yn syrthio i lawr ar eu hwynebau ac yn addoli Duw,

17. gan ddweud:“Diolch i ti, Arglwydd Dduw Hollalluog,yr Un sydd ac oedd,am gymryd yr awdurdod sydd gen tia dechrau teyrnasu.

18. Roedd y cenhedloedd wedi gwylltio; ond nawr mae'n amser i ti fod yn ddig.Mae'r amser wedi dod i farnu y rhai sydd wedi marw,ac i wobrwyo dy weision y proffwydia'th bobl dy hun, a'r rhai sy'n parchu dy enw di,yn fawr a bach –a hefyd i ddinistrio'n llwyry rhai hynny sy'n dinistrio'r ddaear.”

19. Yna dyma ddrysau teml Dduw yn y nefoedd yn agor, ac roedd modd gweld arch yr ymrwymiad y tu mewn iddi. Ac roedd mellt a sŵn taranau a daeargryn a storm fawr o genllysg.

Datguddiad 11