Datguddiad 10:8-11 beibl.net 2015 (BNET)

8. Yna dyma'r llais o'r nefoedd yn siarad â mi unwaith eto: “Dos at yr angel sy'n sefyll ar y môr a'r tir, a chymer y sgrôl fach agored sydd ganddo yn ei law.”

9. Felly dyma fi'n mynd at yr angel ac yn gofyn iddo roi y sgrôl fechan i mi. Dyma'r angel yn dweud: “Cymer hi, a bwyta hi. Bydd yn troi'n chwerw yn dy stumog, ond bydd yn felys fel mêl yn dy geg.”

10. Dyma fi'n cymryd y sgrôl fechan o law yr angel ac yn ei bwyta. Roedd yn blasu'n felys fel mêl yn fy ngheg, ond ar ôl ei llyncu trodd yn chwerw yn fy stumog.

11. Yna dyma nhw'n dweud wrtho i: “Rwyt ti i broffwydo eto yn erbyn llawer iawn o bobloedd, cenhedloedd, ieithoedd a brenhinoedd.”

Datguddiad 10