Datguddiad 10:3-7 beibl.net 2015 (BNET)

3. Galwodd allan yn uchel fel llew yn rhuo. Wrth iddo weiddi, clywyd sŵn saith taran.

4. Pan glywyd sŵn y saith taran, roeddwn ar fin ysgrifennu'r cwbl i lawr, ond clywais lais o'r nefoedd yn dweud, “Cadw beth mae'r saith taran wedi ei ddweud yn gyfrinach; paid meiddio'i ysgrifennu i lawr!”

5. Yna dyma'r angel roeddwn wedi ei weld yn sefyll ar y môr a'r tir yn codi ei law dde.

6. Aeth ar lw yn enw yr Un sy'n byw byth bythoedd, yr un a greodd yr awyr a'r ddaear a'r môr a phopeth sydd ynddyn nhw. Dwedodd: “Fydd dim mwy o oedi!

7. Pan fydd y seithfed angel yn canu ei utgorn, bydd cynllun dirgel Duw wedi ei gyflawni, yn union fel roedd wedi dweud wrth ei weision y proffwydi.”

Datguddiad 10