9. Ioan ydw i, eich cyd-Gristion. Fel chi dw innau hefyd yn dioddef, ond am fod Duw yn teyrnasu, dw i'n dal ati fel gwnaeth Iesu ei hun. Roeddwn i wedi cael fy alltudio i Ynys Patmos am gyhoeddi neges Duw a thystiolaethu am Iesu.
10. Roedd hi'n ddydd Sul, ac roeddwn i dan ddylanwad yr Ysbryd Glân. Yn sydyn clywais lais y tu ôl i mi, yn glir fel trwmped.
11. Dyma ddwedodd: “Ysgrifenna beth weli di mewn sgrôl, a'i anfon at y saith eglwys, sef Effesus, Smyrna, Pergamus, Thyatira, Sardis, Philadelffia, a Laodicea.”
12. Dyma fi'n troi i edrych pwy oedd yn siarad â mi, a dyma beth welais i: saith canhwyllbren aur.
13. Yn eu plith roedd “un oedd yn edrych fel person dynol.” Roedd yn gwisgo mantell hir oedd yn cyrraedd at ei draed a sash aur wedi ei rwymo am ei frest.
14. Roedd ganddo lond pen o wallt oedd yn wyn fel gwlân neu eira, ac roedd sbarc yn ei lygaid fel fflamau o dân.
15. Roedd ei draed yn gloywi fel efydd mewn ffwrnais, a'i lais fel sŵn rhaeadrau o ddŵr.
16. Yn ei law dde roedd yn dal saith seren, ac roedd cleddyf miniog yn dod allan o'i geg. Roedd ei wyneb yn disgleirio'n llachar fel yr haul ganol dydd.
17. Pan welais e, dyma fi'n llewygu wrth ei draed. Yna cyffyrddodd fi â'i law dde, a dweud wrtho i: “Paid bod ag ofn. Fi ydy'r Cyntaf a'r Olaf,
18. yr Un Byw. Roeddwn i wedi marw, ond edrych! – dw i'n fyw am byth bythoedd! Gen i mae allweddi Marwolaeth a Byd y Meirw.
19. Felly, ysgrifenna beth rwyt ti'n ei weld, sef beth sy'n digwydd nawr, a beth sy'n mynd i ddigwydd yn fuan.