9. Ond rwyt ti, ein Duw a'n Meistr ni, yn Dduw trugarog sy'n maddau, er ein bod ni wedi gwrthryfela yn dy erbyn.
10. Wnaethon ni gymryd dim sylw ohonot ti pan oeddet ti'n ein dysgu ni drwy dy weision y proffwydi, ac yn dweud wrthon ni sut ddylen ni fyw.
11. “Mae pobl Israel i gyd wedi mynd yn rhy bell, ac wedi troi cefn arnat ti a diystyru beth roeddet ti'n ddweud. Felly mae'r felltith roeddet ti wedi ein rhybuddio ni amdani mor ddifrifol yng Nghyfraith Moses wedi digwydd, am ein bod ni wedi pechu yn dy erbyn di.
12. Ti wedi gwneud beth roeddet ti wedi ei fygwth i ni a'n harweinwyr. Mae wedi bod yn drychineb ofnadwy. Does erioed y fath drwbwl wedi bod yn unman ag a ddigwyddodd yn Jerwsalem.
13. Mae wedi digwydd yn union fel mae cyfraith Moses yn dweud. Ac eto dŷn ni ddim wedi gwneud pethau'n iawn gyda'r ARGLWYDD ein Duw drwy droi cefn ar ein pechod a cydnabod dy fod ti'n ffyddlon.
14. Roedd yr ARGLWYDD yn gwybod beth oedd e'n wneud, a daeth â'r dinistr arnon ni. Mae popeth mae'r ARGLWYDD yn ei wneud yn iawn, a doedden ni ddim wedi gwrando arno.
15. “Felly, o Dduw ein Meistr ni, sy'n enwog hyd heddiw am dy gryfder yn arwain dy bobl allan o wlad yr Aifft: dŷn ni wedi pechu a gwneud drwg.
16. O Feistr, rwyt ti bob amser yn gwneud beth sy'n iawn; plîs stopia fod yn wyllt gyda dy ddinas, Jerwsalem, a'r mynydd rwyt wedi ei gysegru. Am ein bod ni wedi pechu, a'n hynafiaid wedi gwneud cymaint o ddrwg, dydy Jerwsalem a dy bobl di yn ddim byd ond testun sbort i bawb o'u cwmpas nhw!
17. Felly, o Dduw, gwrando ar dy was yn pledio a gweddïo arnat ti. Er dy fwyn dy hun wnei di edrych yn garedig eto ar dy deml sydd wedi ei dinistrio.
18. O Dduw, gwrando'n astud ar beth dw i'n ofyn. Edrych ar stad y ddinas yma sy'n cael ei chysylltu â dy enw di! Dŷn ni ddim yn gweddïo fel yma am ein bod ni'n honni ein bod wedi gwneud beth sy'n iawn, ond am dy fod ti mor anhygoel o drugarog.
19. O Feistr, gwrando! O Feistr, maddau! O Feistr, edrych a gwna rywbeth! O Dduw, paid oedi – er dy fwyn dy hun! Er mwyn dy ddinas, a'r bobl sy'n cael eu cysylltu â dy enw di.”
20. Roeddwn i'n dal ati i weddïo, a cyffesu fy mhechod a pechod fy mhobl Israel, ac yn pledio ar yr ARGLWYDD fy Nuw ar ran Jerwsalem a'r mynydd sydd wedi ei gysegru ganddo.
21. A tra roeddwn i'n gweddïo dyma Gabriel, yr un oedd yn y weledigaeth arall pan oeddwn i wedi fy llethu'n llwyr, yn dod ata i tua amser offrwm yr hwyr.
22. Dyma fe'n esbonio i mi, “Dw i wedi dod yma er mwyn i ti ddeall pethau'n iawn.
23. Cafodd yr ateb ei roi wrth i ti ddechrau gweddïo, a dw i wedi dod yma i'w rannu gyda ti. Rwyt ti'n sbesial iawn yng ngolwg Duw. Felly gwrando'n ofalus, i ti ddeall y weledigaeth.
24. Mae saith deg cyfnod o saith wedi eu pennui dy bobl a'r ddinas sanctaiddroi diwedd ar eu gwrthryfel.I ddod â'r pechu i ben,delio gyda drygionia gwneud pethau'n iawn unwaith ac am byth.I gadarnhau y weledigaeth broffwydol,ac eneinio y Lle Mwyaf Sanctaidd.
25. Felly rhaid i ti ddeall:O'r amser pan gafodd y gorchymyn ei roii adfer ac ailadeiladu Jerwsalemnes daw un wedi ei eneinio yn arweinydd,bydd saith cyfnod o saith.Bydd y ddinas yn cael ei hadfer a'i hailadeiladugyda strydoedd a ffosydd amddiffynam chwe deg dau cyfnod o saith.Ond bydd hi'n amser caled, argyfyngus.
26. Ar ôl y chwe deg dau cyfnod o saith,bydd yr un wedi ei eneinio yn cael ei dorri i ffwrdd,bydd heb ddim.Yna bydd y ddinas a'r deml yn cael eu dinistriogan fyddin arweinydd arall sydd i ddod.Bydd y diwedd yn dod fel llif.Bydd rhyfela'n para i'r diwedd.Mae dinistr wedi ei gyhoeddi.
27. Bydd yn gwneud ymrwymiad gyda'r tyrfaoeddam un cyfnod o saith.Ond hanner ffordd drwy'r saithbydd yn stopio'r aberthau a'r offrymau.Yna ar yr adain bydd yn codieilun ffiaidd sy'n dinistrio,nes i'r dinistr sydd wedi ei ddyfarnuddod ar yr un sy'n dinistrio.”