4. Ro'n i'n gweddïo ar yr ARGLWYDD fy Nuw, a cyffesu, “O Feistr, plîs! Ti ydy'r Duw mawr a rhyfeddol! Ti'n Dduw ffyddlon sy'n cadw dy ymrwymiad i'r bobl sy'n dy garu ac sy'n ufudd i ti.
5. Ond dŷn ni wedi pechu a gwneud beth sy'n ddrwg. Dŷn ni wedi gwrthryfela, ac wedi troi cefn ar dy orchmynion di a dy safonau di.
6. Dŷn ni wedi gwrthod gwrando ar dy weision, y proffwydi. Roedden nhw wedi siarad ar dy ran di gyda'n brenhinoedd ni a'n harweinwyr, ein hynafiaid a'n pobl i gyd.
7. “Feistr, rwyt ti wedi gwneud popeth yn iawn, ond does gynnon ni ddim ond lle i gywilyddio – pobl Jwda a Jerwsalem, pobl Israel i gyd – y bobl sydd ar chwâl drwy'r gwledydd lle rwyt ti wedi eu gyrru nhw am iddyn nhw dy fradychu di.
8. O ARGLWYDD, cywilydd arnon ni! – cywilydd ar ein brenhinoedd a'n harweinwyr a'n hynafiaid i gyd. Dŷn ni wedi pechu yn dy erbyn di.
9. Ond rwyt ti, ein Duw a'n Meistr ni, yn Dduw trugarog sy'n maddau, er ein bod ni wedi gwrthryfela yn dy erbyn.
10. Wnaethon ni gymryd dim sylw ohonot ti pan oeddet ti'n ein dysgu ni drwy dy weision y proffwydi, ac yn dweud wrthon ni sut ddylen ni fyw.