Daniel 9:15-23 beibl.net 2015 (BNET)

15. “Felly, o Dduw ein Meistr ni, sy'n enwog hyd heddiw am dy gryfder yn arwain dy bobl allan o wlad yr Aifft: dŷn ni wedi pechu a gwneud drwg.

16. O Feistr, rwyt ti bob amser yn gwneud beth sy'n iawn; plîs stopia fod yn wyllt gyda dy ddinas, Jerwsalem, a'r mynydd rwyt wedi ei gysegru. Am ein bod ni wedi pechu, a'n hynafiaid wedi gwneud cymaint o ddrwg, dydy Jerwsalem a dy bobl di yn ddim byd ond testun sbort i bawb o'u cwmpas nhw!

17. Felly, o Dduw, gwrando ar dy was yn pledio a gweddïo arnat ti. Er dy fwyn dy hun wnei di edrych yn garedig eto ar dy deml sydd wedi ei dinistrio.

18. O Dduw, gwrando'n astud ar beth dw i'n ofyn. Edrych ar stad y ddinas yma sy'n cael ei chysylltu â dy enw di! Dŷn ni ddim yn gweddïo fel yma am ein bod ni'n honni ein bod wedi gwneud beth sy'n iawn, ond am dy fod ti mor anhygoel o drugarog.

19. O Feistr, gwrando! O Feistr, maddau! O Feistr, edrych a gwna rywbeth! O Dduw, paid oedi – er dy fwyn dy hun! Er mwyn dy ddinas, a'r bobl sy'n cael eu cysylltu â dy enw di.”

20. Roeddwn i'n dal ati i weddïo, a cyffesu fy mhechod a pechod fy mhobl Israel, ac yn pledio ar yr ARGLWYDD fy Nuw ar ran Jerwsalem a'r mynydd sydd wedi ei gysegru ganddo.

21. A tra roeddwn i'n gweddïo dyma Gabriel, yr un oedd yn y weledigaeth arall pan oeddwn i wedi fy llethu'n llwyr, yn dod ata i tua amser offrwm yr hwyr.

22. Dyma fe'n esbonio i mi, “Dw i wedi dod yma er mwyn i ti ddeall pethau'n iawn.

23. Cafodd yr ateb ei roi wrth i ti ddechrau gweddïo, a dw i wedi dod yma i'w rannu gyda ti. Rwyt ti'n sbesial iawn yng ngolwg Duw. Felly gwrando'n ofalus, i ti ddeall y weledigaeth.

Daniel 9